Tuesday, July 19, 2005

Pa le gwell na Dolgellau...

...am SESIWN!!!!

Wel, ma Sesiwn Fawr Dolgellau wedi mynd a dod eleni eto, a mae'n rhaid i fi ddeud mai hon ydi'r un dwi wedi fwynhau fwya erioed. Mi oedd popeth yn dda amdani.

Don i'm yn poeni llawer am nos Wener - dwi'm yn ffan neiltuol o'r Super Furries (er eu bod nhw'n cael brownie points am samplo can Steely Dan) felly jyst mwynhau'r crac a gweld 'yn ffrindia wnes i y noson honno. Mi wnes i fwynhau'r gig, hefyd - ma'r hogia'n medru chwara, chwarae teg.

Dydd Sadwrn oedd y boi. O'n i'n mynd i weld band cynta'r dydd yn chwara yn y Theatr Fach - Salero, band Robin, un o'n ffrindiau ysgol i (a band y buais i yn chwara bas ynddo fo ar un adeg - happy days). Oedd hynny'n hwyl - doedd 'na'm llawer yno i'w wylio fo (braidd yn gynnar, o bosib - 11 y bore oedd hi), felly mi oedden nhw'n gallu ymlacio a chwarae o gwmpas chydig mwy. Da oeddan nhw hefyd - ma'r band yn ddigon tynn a hyderus i wneud petha dipyn mwy mentrus na phan o'n i efo nhw a mae'r caneuon yn dda bellach hefyd (nid eu bod nhw'n ddrwg cynt, ond mae'r cysondeb a'r strength in depth yno rwan hefyd. At yr Unicorn wedyn, i sipian lager efo'n ffrindia coleg yn yr haul. Ma hyn yn ddefod bellach dechra pnawn dydd Sadwrn bob tro a mi oedd o'n lot o hwyl cael gorwadd yn ol a malu cachu. Mi es i i weld Fflur Dafydd yn y Theatr Fach wedyn (siwpyrb) cyn mynd draw am y maes - o'n i wedi deud y baswn i'n cyfarfod Llinos, 'yn ffrind yno. A felly fu - mi fuon ni'n dau yn crwydro y maes am dipyn wedyn cyn anelu draw am y Theatr Fach unwaith eto am fwy o gerddoriaeth acwstig. Brigyn, Gwyneth Glyn ag Alun Tan Lan oedd yr arlwy tro'ma, a mi all i ddeud yn hollol onest eu bod nhw i gyd yn wych. Jyst y peth oedd isio ar bnawn Sadwrn diog, y cyfle i eistedd nol a gwylio'r cantorion gret 'ma yn gwneud eu gig. Roedd 'na awyrgylch hyfryd yn y theatr - gan ei bod hi'n fach, mi oedd y gig yn teimlo'n ecsclwsif ac agos, oedd yn gwneud y profiad yn well fyth. Estynedig oedd band olaf dydd Sadwrn, a mi wnes i fwynhau rheiny hefyd - mae Ceri Anweledig yn gret o ffryntman yn 'y marn i a mi wnes i fwynhau'r caneuon hefyd.

Oedd dydd Sul yn lot o hwyl hefyd. Codi'n gynnar (ish-wel, deg, eniwe) a mynd am dro rownd Llwybr Cynwch efo Llinos cyn anelu am y dref a'r Clwb Rygbi i fynd i Ymryson y Sesiwn. Chwerthin, was bach. Ma Twm Morys yn wych o feuryn - doniol a hwyliog, ac yn gyfun efo Bethan Gwanas doedd 'na ddim peryg y bydda'r talwrn yn ddiflas. Peth arall neis i'w weld oedd y safon - mi oedd 'na feirdd talentog dros ben yn trio, Arwyn Groe, Mair Tomos Ifans, Dewi Prysor, Nia Medi, Iwan Rhys, Geraint Rhys ag Osian Rhys yn eu plith (ydi cael 'Rhys' yn enw canol yn un o'r gofynion i fod yn fardd bellach, 'dwch?) a morio chwerthin fuo' hanas pawb. Mi enillais i am y gwpled ar y pryd, hefyd - iei! Eising ar y gacen, fel 'tai.

Ar ol stwna o gwmpas y y clwb rygbi am rhyw awran, mi ddaeth hi'n amsar y gig. Pala, Salero a Frizbee oedd y lineup. Dod i weld Salero o'n i wedi neud - do'n i ddim yn poeni rhyw lawer am weld Frizbee gan 'mod i wedi'u gweld nhw droeon o'r blaen, ond mi o'n i'n edrych ymlaen i weld sut hwyl fydda Pala'n gael.

Ches i mo'n siomi, chwaith. Band lleol o Lanuwchllyn ydi Pala, efo piano, bas, dryms a llais, a mi o'n i'n meddwl 'u bod nhw'n ffantastic, wir i chi. Dwi wrth 'y modd efo harmonies a phiano fel'na beth bynnag, a phan mae gennoch chi griw o offerynwyr penigamp fatha rhain sy'n dynn ac efo caneuon da, allwch chi'm mynd yn bell o'ch lle. Llwyfan mawr flwyddyn nesa, plis.

Roedd Salero yn wych hefyd. Mi o'n i wedi gweld 'u set nhw i bob pwrpas y diwrnod cynt, ond mi o'n i'n dotio at faint mor hyderus mae nhw fel band bellach. Mae gen Robin dipyn o glust am gerddoriaeth a synnwyr digrifwch hefyd, a mae clywed band yn neidio i mewn i 'Gwlad y Rasta Gwyn' hanner ffordd drwy gan neu'n gwneud cyfyr sbot-on o 'By The Way' gen y Chilis yn lot o hwyl. Band i roi gwen ar eich gwyneb chi yn ogystal a cherddoriaeth o sylwedd - be mwy da chi isio? Llwyfan mawr i rhein hefyd, plis. Neu mi fydd 'na le 'ma.

A gyda hynny, mi oedd hi'n amsar mynd adra. Rol on SFD 2006!

O, a do, mi wnes i losgi. Eto. Diolch yn fawr i bawb ddaru bwyntio hyn allan i mi. Not.

Monday, July 11, 2005

Craig o Arian

Dwi ddim, yn anffodus. (Mae Califfornia wedi bod yn dipyn o wipeout lle mae yr hen gyfri banc yn y cwestiwn, ac yn golygu y bydd raid i fi feddwl am ffyrdd o gael pres o'r newydd. Gan bod hyn fel arfer yn golygu ymdrech o rhyw fath ar fy rhan i, dwi'm yn or-hoff o'r syniad).

Mi fuodd Dad a fi lawr i weld y Grand Prix yn Silverstone y penwsnos yma. (Ia, i'r rhai ohonoch chi sy wedi gweithio arwyddocad y teitl allan yn barod, joc oedd o. I fod. Ahem.) Do'n i erioed wedi bod o'r blaen, a mi oedd o'n brofiad a hanner.

Tocynna penwythnos oedd Dad wedi gael (presant pen-blwydd hael dros ben iddo fo oeddan nhw) a felly off a ni am saith o'r gloch fore Sadwrn am Northampton. O'n i heb gysgu winc y noson cynt achos 'mod i'n dal heb addasu yn ol i amser Prydain eto, felly mi o'n i fel brechdan ran fwya o'r diwrnod. Mi gyrhaeddon ni'r trac heb lawer o hasl a mynd i chwilio am le da i sefyll - mi ffeindion ni o yn Stowe, ar ddiwedd y darn hir syth ag o flaen sgrin deledu fawr. Oedd y ceir F1 yn dal yn ymarfer wrth i ni gerdded rownd y trac, a buan iawn y penderfynon ni y byddan ni angen plygia clust ar gyfer y qualifying a'r ras. Son am swn sy'n gwneud i'r blew ar eich gwar chi sefyll i fyny - mae o'n union fel sgrech gras, anhygoel o swnllyd, a fedar eu clywed nhw ar y teledu ddim yn agos wneud cyfiawnder a fo - mae o fel y gawhaniaeth rhwng gweld llun o ffrwydriad a gweld un go-iawn, a mae cael ugain ohonyn nhw yn paseio yn syth ar ol eu gilydd yn teimlo fel bod eich ymennydd chi yn cael ei sgwidjo mewn blendar. Ma'r ogla yn ychwanegu ato fo hefyd, yn synnwyr arall ar ben clyw a gweld - olew yn llosgi a rwber yn ffrio. Fwy nag unrhyw chwaraeon aral dwi wedi weld yn fyw, mae F1 yn gafael ynddoch chi yr holl amsar 'da chi yno, yn hawlio'ch sylw chi hyd yn oed pan nad oes 'na ddim byd yn digwydd.

Doedd dydd Sadwrn ddim yn ddiwrnod prysur iawn o ran rasio - cwaliffeio oedd y ceir F1 a'r Porsche Supercup, ond mi oedd 'na ras GP2 (Formula 3000 ar ei newydd wedd - un cam i lawr yr ysgol o F1) a ras Maserati Challenge, oedd yn gyffrous ill dwy. Ond y cwaliffeio F1 oedd uchafbwynt y dydd. Roedd gwylio Raikkonen, Alonso, Button, Montoya, a'r lleill i gyd yn hedfan lawr yr Hangar Straight cyn taflu eu ceir i mewn i Stowe yn brofiad cwbwl wefreiddiol - fedar teledu ddim dod yn agos at ddangos faint mor aruthrol o gyflym ydi'r ceir 'ma. Yn ol y son, mi fedar car F1 fynd o 0 i 100mya ac yn ol i 0 eto mewn chwe eiliad - a roedd hynny'n hawdd iawn i'w gredu o'u gweld nhw.

Mi oedd Dad wedi bwcio gwesty yng Nghaerlyr y noson honno, a fanno aethon ni ar ol y ras Maserati. O'n i'n fflat owt yn syth ar ol i 'mhen i hitio'r gobennydd. Codi yn gynnar y bore wedyn (am chwech), a chymryd mantais llawn o frecwast y gwesty cyn mynd am y trac.

Roedden ni wedi sylweddoli ymhell cyn cyrraedd y trac y bydda 'na dipyn mwy o bobol yna ar ddydd y ras. Roedd y traffic yn ymestyn yn ol ymhell - da o beth ein bod ni wedi cychwyn yn fuan. Mi oedd hi'n hawdd deud hefyd, y munud y cyrhaeddon ni'r trac, bod nifer helaeth o'r gynulleidfa yn mynd i fod yn mynd ar fy nerfa i drwy'r dydd.

O'r holl bethau sy wedi eu gosod ar y ddaear hon i fod yn dreth ar 'yn amynedd i (a Iesu bach, mae 'na lot o'r rheini) mae pobol sy'n hoffi gwneud diawl o swn i dynnu sylw atyn nhw'u hunain mewn llefydd cyhoeddus yn sicr i fyny yna efo gwybed a'r Daily Mail. Mi oedd y bobol oedd yn gwerthu y cyrn awyr melltigedig 'na yn amlwg wedi cael hwyl go dda arni - roedd 'na un gan y byd a'i frawd. A'i chwaer. A'i gefndryd.

Mae o'n ddirgelwch llwyr i mi pam bod pobol yn licio'r petha 'ma. Wedi'r cyfan, petae chi'n gofyn i berson gerdded i lawr y stryd yn gweiddi "YLWCH FI! SYLWCH FFASIWN FFACIN WANCAR YDW I! NODWCH SUT YDW I'N GWRTHOD GADAEL I CHI FY ANWYBYDDU I, MOR AWYDDUS YR WYF I DDERBYN EICH SYLW!", mae'n debyg y bysan nhw'n sbio'n hurt arnoch chi. Ond dyna'n union mae nhw'n neud efo'r cyrn 'ma. A nid hynny yn unig - does 'na r'un ohonyn nhw'n gwbod am unrhywbeth arall i wneud efo nhw na 'football ditty #23'. Da chi'n gwbod be dwi'n feddwl - Ra-ra, ra-ra-ra, rararara, RA-RA! Am yr ail dro yn y penwythnos mi ddiolchais i am fy mhlygia clust - hebddyn nhw dwi'n ofni y byswn i wedi cweirio y twat swnllyd agosa i farwolaeth efo'n stol blygu. Mi oedd 'na un ohonyn nhw'n ddigon o gwd i bwyso ei fotwm sylw yng nghanol y munud o dawelwch i'r bobol fuodd farw ddydd Iau, er mwyn dyn.

Ond ta waeth am hynny. Mi ddaeth yn amser y ras, a mi oedd o'n brofiad gwych. Heb os, mi faswn i wedi gweld y ras a'i deall hi yn well adra - doedd gen i'm syniad pwy oedd ar y blaen gan nad o'n i'n clywad y sylwebydd - ond nid dyna oedd y pwynt. Ma gweld y gyrwyr allan yna, 20 ohonyn nhw wedi eu strapio i be sy i bob pwrpas yn daflegryn Cruise efo olwynion, pob un ohonyn nhw ar yr ymyl ac yn rhoi pob owns o'u gallu mewn i wneud eu march fynd rownd y cwrs ffracsiwn o eiliad yn gynt na neb arall, yn brofiad bythgofiadwy. A phan o'n i yn eistedd yno, ar fy stol, ar ddiwrnod bendigedig, peint yn fy llaw a ffans o'r un anian a finnau o 'nghwmpas i'n bob man - mi oedd hynna'n brofiad.

Mae 'na lawer o bobol ddyddia yma yn deud wrtha i, pan dwi'n deud 'mod i'n hoffi F1, ei fod o'n ddiflas, bod 'na ddim byd yn digwydd, bod yr un rhai yn ennill o hyd - ei fod o, i ddefnyddio geiriau Shakespeare, yn 'full of sound and fury, signifying nothing'. Dwi'm yn amau am funud bod hynny'n wir - ond mi alla i ddeud, ar ol dydd Sul, bod y 'sound and fury' yn hen ddigon gen i.

Friday, July 08, 2005

Dinas Yr Angylion

Ma Los Angeles yn lle rhyfadd. O'n i wedi clywad hynny cyn cyrraedd yno, felly doedd o'm yn annisgwyl, ond ma'n rhaid i chi 'i brofi fo drostoch chi'ch hunain cyn allwch chi ddeall yn union be ma pobol yn feddwl.

I ddechra cychwyn, nid un ddinas ydi LA, ond tua 20 ohonyn nhw. Ma Beverly Hills a West Hollywood, sef y llefydd sy'n cydymffurfio efo'r stereoteip Tinseltown, yn y gorllewin, wedyn ma Long Beach ag Anaheim yn y de yn llefydd eitha neis hefyd. Ma'r llefydd yn y canol, ar y llaw arall, fel South Central a Compton, yn aml yn llefydd fyddach chi angen bazooka i allu crwydro'r strydoedd liw nos yn saff. Yn yr ardal fusnes oeddan ni'n aros, mewn gwesty o'r enw y Stillwell. Mi oedd o'n rhad, oedd yn dda, a mi oedd y stafell yn iawn, ond mi oedd y staff rwla rhwng Basil Fawlty a Norman Bates lle oedd bod yn groesawgar yn y cwestiwn, yn anffodus. Fel canlyniad, mi wnaethon ni'n gorau i'w hosgoi nhw.

Ar bnawn Sul gyrhaeddon ni, ag ar ol dadbacio, mi oedd hi'n amsar mynd i chwilio am rwbath i fwyta. Mi oedd hyn yn anodd. Gan nad oes 'na neb yn gweithio ar ddydd Sul, mi oedd y canol fel y bedd, a dim byd yn agored. Wrth gerddad o gwmpas, mi ddechreuais i gael rhyw deimlad rhyfadd tebyg i burnout, a barhaodd am weddill y dydd a'r diwrnod wedyn hefyd. Do'n i'm yn hoffi LA. Dydi hi'm yn ddinas dlws, dydi hi ddim yn ddinas neis, mae hi jyst yn gorwedd yna, fel y pwll sy'n lledu ar draws bwrdd os oes 'na rhywun yn troi ei wydr drosodd. Mae pob man yn andros o bell - mae LA yn 30 milltir a mwy o un pen i'r llall, felly mae hi'n hunllef os nad oes ganddoch chi gar - ag i ddeud y gwir, os nad ydach chi'n hoffi rwtsh, does 'na ddim llawer i'w weld yn Downtown.

Mi barodd hyn nes i ni fynd i Universal Studios, ar ddydd Llun. O'n i'n licio Universal. Roedd o'n hollol wahanol i bob dim arall oeddan ni wedi wneud ar y trip, mi oedd y tour yn ddiddorol os 'da chi'n hoffi ffilmia (mi ydw i) a dwi hefyd yn hoffi rolyr cosdyrs. Doedd 'na ddim llawer o giwio chwaith, oedd yn neis (ag yn syndod, gan ei bod hi'n Independence Day y diwrnod hynny). Cerwch, os byddwch chi'n LA fyth. Mi gawson ni IHOP arall cyn mynd, hefyd - dwi'n licio'r lle yna.

I'r Getty Centre (wps - CENTER, sori. Ma sgwennu Saesneg America yn dal i fod yn rhywbeth sy'n groes i'r graen i fi - ai ffil a rant cyming on) aethon ni ddydd Mawrth, ein diwrnod ola ni yn America. (Wel, bron - mi gafodd Adam a fi ddiwrnod cyfa o eistedd mewn maes awyr hefyd, ond doedd hynny'm yn ddiddorol iawn). Mae hwn hefyd yn bell, bell o ganol y dref, ond mae o'n wych o le - celf, cerfluniau a dodrefn tlws a chain o bob rhan o'r byd. Pwysig cael chydig o cyltshyr, 'ntydi?

Adra oedd ein hanes ni wedyn. Mi aeth yr hedfaniad yn iawn, ond mi gyrhaeddon ni Lundain i ganol y pethau ofnadwy ddigwyddodd ddoe. Mi fuon ni'n lwcus iawn i ddod drwy hynny heb lawer o drafferth, ond nid dyna ydi'r pwynt. Dwi'n edmygu pobol Llundain, a'r gwasanaeth brys yn arbennig, yn fawr am ymateb i'r drychineb mewn ffordd dwi'n amau'n gryf na faswn i wedi gallu wneud, ag yn cydymdeimlo efo'r bobol gafodd eu effeithio gen y digwyddiadau - mae o'n rhoi perspectif ar ein taith a'n problema ni, rhywsut.

Mi o'n i wedi bwriadu sgwennu pwt am ddod adra, ond ma hi'n hwyr, a da ni (fi a Dad) yn mynd i Silverstone fory i weld y Grand Prix. Mi geith o aros tan y tro nesa, dwi'n meddwl. Hwyl am rwan.

Saturday, July 02, 2005

Conspiciwys Consympshyn

Dwi wedi bod yn syllu o 'nghwmpas efo mwy a mwy o anghrediniaeth yn ddiweddar - mi ddechreuodd yn Yosemite a mae o 'di parhau (ac wedi cynyddu, os rwbath) ers cyrraedd Santa Barbara. Pam? Achos 'mod i'n methu credu faint mor wahanol ydi pethau yma o ran y math o geir ma pobol yn yrru yma. O'n i'n meddwl bod Caerdydd yn ddrwg o ran pobol yn gyrru y Chelsea Tractors (neu SUVs, neu grap-wagenni, galwch nhw'n be fynnwch chi) bondigrybwyll 'ma, ond wir Dduw i chi, faswn i'm wedi gallu gweld mwy ohonyn nhw dros yr wythnos diwetha 'ma taswn i wedi gosod 'y 'mhabell ar ganol yr M25.

Mae nhw ymhobman yma. A ddim jyst 4x4s, ddim jyst be sy gennon ni ond yn fwy niferus, o na. Mi fydda hynny yn llawar rhy normal. Ma'r SUVs yma yn HIWJ - ma nhw'n gwneud i'r waled-hysbysebwr mwya' di-chwaeth welwch chi yng Nghymru edrych yn anorecsig a deud y lleia. Ma gennyn nhw i gyd enwau macho (GMC Yukon, Toyota Tundra, Lincoln Navigator, Ford Expedition, etc) ac injans macho-ach (os mai dyna sut ma mynegi 'mwy macho' mewn gair - os nad ydi o'n air, mi ddylsa fod) V8 neu V10 sy'n gaddo economi tanwydd o tua dau alwyn i'r filltir ac sy'n chwydu mwy o olew na gwylan yn Kuwait.

A jyst pan fydda chi'n meddwl bod hyn yn ddigon drwg, ma'r picyps yn ymddangos. Ia - picyps. Y peth i brynu, mae'n debyg, pan mae strydoedd Santa Barbara yn mynd yn rhy beryg i'r rhagddywedig gyfandir-gywasgwyr allu eu teithio nhw'n ddiogel. (Mae'r rhain yn strydoedd, mi wna i'ch atgoffa chi, sy byth yn gweld glaw, heb son am eira, ran fwya o'r flwyddyn). Eto, injans V8 a V10 a fflipin anferth (a ma hwn yn lefel cwbwl newydd o 'anferth' - meddyliwch 'Star Destroyer ar ddechrau Star wars Episode IV' a da chi nunlla'n agos ati). Mae'r picyp cab-dwbwl mwya dros-y-top welwch chi adra yn edrych yn fach a Hot Wheels-aidd yn ymyl y petha yma - mae gan rai ohonyn nhw olwynion cefn dwbwl, hyd yn oed.

A'r cwestiwn mawr, sy'n fy llethu i'n llwyr, ydi: Pam? Mae'r petha yma i gyd, bob un wan jac ohonyn nhw, yn gwbl ddilychwin - dydyn nhw byth yn mynd oddi ar ffordd yn achos yr SUVs, nac yn gorfod llusgo unrhyw lwyth yn achos y picyps. Mae'n debyg mai dyma be ydi'r acsesori ffasiwn gorfodol yng Nghaliffornia y dyddia yma - Duw a'n helpo ni os lledaenith hyn i Brydain o gwbwl. Nid 'i fod o'n beryg o wneud ar hast - ma Sloane Rangers yn athrylithoedd lle ma parcio'r petha erchyll 'ma 'n y cwestiwn, ond mi fydda gweld un ohonyn nhw'n trio parcio un o'r Llonga Madog 'ma o bicyps yng nghanol Llundain yn rwbath faswn i'n talu i weld.

Iawn, digon o refru am y tro. Wela i chi'n LA!