Thursday, September 14, 2006

Reit

Fis Mehefin mi ddudish i y baswn i yn dechra blogio eto - dri mis yn ddiweddarach, hwn ydi'r blogiad cynta i mi neud. Bah.

Eniwe, be sy 'di bod yn digwydd? Dwi wedi graddio ac yn cyfieithu'n rhan amser yng Nghaerdydd, gan obeithio y bydd hynny'n ddigon i 'ngynnal i drwy'r cwrs Masters dwi'n neud leni. Nes i'm mynd i'r Steddfod, ond mi nes i fynd i'r Sesiwn Fawr ac i Wyl Macs, ac mi ges i ben-blwydd (nid bod hynny'n syrpreis mawr).

So, ma isio mwy o flogio. Dwi'n siriys tro 'ma. Wir yr.